Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 4 Mawrth 2020
Amser:
09.32 -
11.09
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5988
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Llyr Gruffydd AC (Cadeirydd) Siân Gwenllian AC Mike Hedges AC Rhianon Passmore AC Nick Ramsay AC Mark Reckless AC |
Tystion: |
James Foreman-Peck, Prifysgol Caerdydd |
Staff y Pwyllgor: |
Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) Gemma Gifford (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r tyst i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies AC.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro James Foreman-Peck, Athro Economeg, Prifysgol Caerdydd ar effaith amrywiadau yn y dreth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y datganiad o egwyddorion y mae’n disgwyl i gyrff a ariennir yn uniongyrchol ei ystyried wrth wneud cynigion cyllidebol, a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor ym mis Mai 2019. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y cyrff a ariennir yn uniongyrchol i gadarnhau pwysigrwydd yr egwyddorion hyn, cyn y rownd nesaf o gynigion cyllidebol.
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar lythyr ar y cyd â Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau at Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch ei ymchwiliad i daliadau cadw yn y sector adeiladu.
8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad â newidiadau.